Rhif y ddeiseb: P-06-1272

Teitl y ddeiseb: Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru.

Testun y ddeiseb: Mae nifer y bobl sy'n rhentu'n breifat yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn - ar hyn o bryd mae llawer yn cael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid anwes oherwydd cymalau yn eu cytundebau tenantiaeth. Ni ddylai’r manteision o berchen ar anifeiliaid anwes gael eu cyfyngu i bobl sy’n berchen ar dŷ. Dylai'r rhai sy'n rhentu gael yr un hawl i gadw anifail anwes â pherchnogion tai.

 

Rhagor o fanylion:Yn ôl Dogs Trust, y prif reswm dros roi cŵn mewn canolfannau ailgartrefu yw oherwydd newid mewn amgylchiadau, fel methu byw mewn eiddo rhent gydag anifail anwes. Mae'r cymalau hyn hefyd yn atal nifer fawr o bobl rhag gwirfoddoli i ailgartrefu anifeiliaid anwes; maent yn cael eu gwahardd rhag gwneud hynny i bob pwrpas o ganlyniad i’w statws fel tenant. Mae hyn yn golygu bod anifeiliaid anwes yn dioddef yn ogystal â thenantiaid.

Ym mis Ionawr 2021, cyflwynodd Llywodraeth y DU Gytundeb Tenantiaeth Enghreifftiol newydd a oedd yn gwahardd landlordiaid rhag cyflwyno gwaharddiadau cyffredinol ar anifeiliaid anwes. Caniatâd ar gyfer anifeiliaid anwes yw'r safbwynt arferol erbyn hyn. Yng Nghymru, nid yw hyn wedi’i gynnwys, ac felly mae tenantiaid Cymru yn llai tebygol o allu cadw anifail anwes na thenantiaid eraill yn y DU.


1.        Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cychwyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) yn llawn ar 1 Rhagfyr 2022. O'r dyddiad hwnnw, bydd y rhan fwyaf o denantiaid a thrwyddedeion preswyl newydd a phresennol yn dod yn ddeiliaid contract o dan delerau contractau meddiannaeth. Bydd telerau contract meddiannaeth yn cynnwys materion allweddol; termau sylfaenol, telerau atodol ac unrhyw delerau ychwanegol a gytunir gan y landlord a’r deiliaid contract. Bydd modd i delerau ychwanegol fynd i'r afael â materion megis cadw anifeiliaid anwes. Rhaid i ddeiliaid contract gael datganiad ysgrifenedig o delerau eu contract meddiannaeth.

Ym mis Ionawr 2021, cafodd y cytundeb tenantiaeth enghreifftiol ar gyfer tenantiaethau byrddaliadol sicr yn Lloegr ei ddiwygio i annog landlordiaid i gynnig mwy o hyblygrwydd yn eu hymagwedd at berchnogaeth anifeiliaid anwes, ac i alluogi tenantiaid cyfrifol sy’n berchen ar anifeiliaid anwes i ddod o hyd i landlordiaid preifat a fydd yn eu derbyn. Mae gwefan Llywodraeth y DU yn nodi bod y cytundeb tenantiaeth enghreifftiol yn hollol wirfoddol.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei llythyr dyddiedig 18 Ebrill 2022 at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn nodi bod dogfennau’r RSPCA, Polisi Safonol ar gyfer Anifeiliaid Anwes (y Sector Rhentu Preifat) a Cartref i Bawb: Canllaw arfer da rheoleiddio tai rhent preifat ac anifeiliaid anwes, wedi cael eu rhannu â landlordiaid preifat ac asiantau drwy Rhentu Doeth Cymru. Mae’r Gweinidog hefyd yn cyfeirio at ganllawiau Llywodraeth Cymru ar y mater hwn a ddarperir mewn rhestr o gwestiynau cyffredin yn ymwneud â rhoi Deddf 2016 ar waith. Mae’r canllawiau hynny’n nodi:

Fel yn rhannau eraill y DU, nid ydym wedi deddfu i greu hawl statudol i gadw anifail anwes, ond gall landlordiaid a deiliaid contractau gytuno ar delerau ychwanegol sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes. Mae’r wybodaeth esboniadol y mae rhaid ei chynnwys mewn datganiadau ysgrifenedig yn ei gwneud yn glir bod rhaid i delerau ychwanegol gydymffurfio â Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 o ran tegwch. Dylai unrhyw gymal sy’n ymwneud ag anifeiliaid anwes fel teler ychwanegol yn y contract ganiatáu i ddeiliad contract ofyn caniatâd i gadw anifail anwes, ac ni fyddai gan y landlord hawl i wrthod y cais yn afresymol.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Mae Janet Finch-Saunders AS wedi codi’r mater hwn yn y Senedd ddwywaith yn ddiweddar. Ar 2 Mawrth 2022, gofynnodd i’r Gweinidog Newid Hinsawdd “Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyflwyno polisi anifeiliaid anwes yng Nghymru i'w gwneud yn haws i denantiaid ag anifeiliaid anwes ddod o hyd i lety rhent?” Ymatebodd y Gweinidog:

I am fully supportive of the RSPCA’s Best Practice guidance for pets in private rented property, and we have shared this, along with their Homes for All guide, with private landlords and agents through Rent Smart Wales. However, there are currently no plans for the Welsh Government to legislate regarding the keeping of pets in rental properties.

Ar 3 Mawrth 2022, gofynnodd Janet Finch-Saunders AS i’r Gweinidog Newid Hinsawdd “Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch cyflwyno cytundeb tenantiaeth enghreifftiol a fyddai'n caniatáu i anifeiliaid anwes gael eu cynnwys yn ddiofyn mewn cytundebau tenantiaeth oni bai bod rheswm i gyfiawnhau peidio â gwneud hynny?” Yn ei hymateb, nododd y Gweinidog fod datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol yn dwyn ynghyd y telerau sylfaenol a nodir yn Neddf 2016 a’r telerau atodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth a bod y rhain wedi bod yn destun ymgynghori ac ystyriaeth helaeth gyda rhanddeiliaid. Nid yw’r telerau hynny’n rhoi hawl statudol i gadw anifail anwes. Fodd bynnag, nododd y Gweinidog eto fod landlordiaid a deiliaid contract yn gallu cytuno ar delerau ychwanegol ar gyfer cadw anifeiliaid anwes.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.